Cymorth eiriolaeth yn newid

Bydd y ffordd mae cymorth eiriolaeth yn cael ei ddarparu i oedolion ag anawsterau dysgu yn Sir Drefaldwyn yn newid gyda ‘A Voice for You’ – a adwaenir yn flaenorol fel Eiriolaeth Dinasyddion Sir Drefaldwyn - yn cau o 30 Medi 2021.  Mae ‘A Voice for You’ yn gweithio’n agos gyda Phonthafren a gwasanaethau lleol eraill i sicrhau y bydd yr unigolion hynny a fydd yn teimlo’r effaith yn parhau i gael mynediad i’r cymorth sydd ei angen arnynt.

Ers dros ddeng mlynedd ar hugain, mae ‘A Voice for You’ wedi bod yn darparu eiriolaeth ddinasyddion i oedolion ag anableddau dysgu yn Sir Drefaldwyn.  Hyfforddwyd a chefnogwyd gwirfoddolwyr i fod yn gyfaill ac i eirioli dros ddinasyddion yn ein cymuned.  Ni fu gwaith ac ymdrechion ein heiriolwyr erioed yn fwy angenrheidiol nag yn ystod y 18 mis diwethaf gyda data cenedlaethol yn dangos mai'r rhai ag anableddau corfforol a dysgu sydd wedi ysgwyddo baich y pandemig hwn.

Mae ‘A Voice for You’ wedi ymdrechu i wella ansawdd bywyd a rhyngweithio cymdeithasol y rhai rydym yn eu cefnogi. Yn anffodus, heb gyllid craidd gan Gyngor Sir Powys nid yw'r elusen yn gynaliadwy yn ariannol. Mae bwrdd yr ymddiriedolwyr wedi bod yn gweithio'n agos gydag elusen leol arall, Cymdeithas Ponthafren, ac mae'n bleser cyhoeddi y bydd llawer o'r gwaith hwn yn parhau i gael ei gefnogi gan Bonthafren ar ôl i ‘A Voice for You’ gau.  Mae bwrdd yr ymddiriedolwyr yn obeithiol bod mesurau wedi'u rhoi ar waith i sicrhau y bydd ein heiriolwyr gwirfoddol a'u partneriaid yn parhau i dderbyn y cymorth a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnynt.

Hoffai ymddiriedolwyr ‘A Voice for You’ ddiolch i'n gwirfoddolwyr anhygoel, ein staff a'r rhai sydd wedi rhoi eu cefnogaeth mewn cymaint o ffyrdd dros gyfnod mor hir.

Mae Ponthafren yn falch iawn o barhau â gwaddol ‘A Voice for You’ gan weithio'n agos gyda phawb i sicrhau bod y cymorth cywir yn cael ei ddarparu ochr yn ochr ag amserlen weithgareddau gynhwysfawr.  Gyda Phonthafren wedi prynu’r Armoury yn y Trallwng yn ddiweddar a’n staff ymroddedig, gwirfoddolwyr, a'r gymuned ehangach ar draws 3 ardal yng Ngogledd Powys rydym yn gyffrous am y fenter newydd hon.  Mae Ponthafren yn darparu cymuned ofalgar, sy'n cynnig cymorth i'r rheiny sydd mewn angen ac i hybu iechyd meddwl a lles i bawb.

I gael rhagor o fanylion ewch i: www.ponthafren.org.uk

Mae Cyngor Sir Powys yn ymestyn ei gydnabyddiaeth a'i werthfawrogiad o'r gwaith a'r cyfraniad y mae ‘A Voice for You’ wedi'i ddarparu dros y blynyddoedd ac yn wir eu hymateb yn ystod pandemig y Coronafeirws.

Mae penderfyniad y Cyngor i newid y trefniant ariannu grant presennol yn rhan o raglen eiriolaeth ehangach. Mae'r Cyngor yn ymdrechu i ddefnyddio’r ystod eang o grwpiau a sefydliadau cymunedol a gwirfoddol ym Mhowys yn llawn i gefnogi a bodloni'r gofynion eiriolaeth a chymdeithasol cyfannol ac eang.

Mae anghenion dinasyddion ym Mhowys yn parhau i fod yn flaenllaw a bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda'r ddau sefydliad i sicrhau bod dilyniant cymorth ar gael i'r unigolion hynny dan sylw ac nad yw'n cael ei beryglu mewn unrhyw ffordd.

Advocacy support is changing

The way advocacy support is delivered to adults with learning difficulties in Montgomeryshire is changing with the closure of A Voice for You – formerly known as Montgomeryshire Citizen Advocacy – from 30th September 2021. A Voice for You is working closely with Ponthafren and other local services to ensure that those individuals affected will continue to access the support they need.

For over thirty years, A Voice for You has provided citizen advocacy for adults in Montgomeryshire with learning disabilities. Volunteers have been trained and supported to befriend and advocate for citizens in our community. Never has the work and efforts of our advocates been more necessary than in the last 18 months with national data showing that those with physical and learning disabilities have borne the brunt of this pandemic.

A Voice for You has striven to improve the quality of life and social interaction of those we support. Unfortunately, without core funding from Powys County Council the charity is not financially sustainable. The trustee board has been working closely with another local charity, Ponthafren Association, and is delighted to announce that on closure of A Voice for You, much of this work will continue to be supported by Ponthafren. The trustee board are optimistic that measures have been put in place to ensure our volunteer advocates and their partners will continue to receive the support and expert guidance they need.

The trustees of A Voice for You would like to thank our amazing volunteers, staff and those who have given their support in so many ways over such a long period of time.

Ponthafren is delighted to continue A Voice for You’s legacy working closely with all involved to ensure the right support is provided alongside a comprehensive activity timetable. With Ponthafren’s recent purchase of the Armoury in Welshpool and our dedicated staff, volunteers, and the wider community across 3 areas of North Powys we are excited for this new venture. Ponthafren provides a caring community, offering support to those in need and to promote mental health and well-being for all.

For further details visit: www.ponthafren.org.uk

Powys County Council extends its recognition and appreciation of the work and contribution that A Voice for You has provided over the years and indeed their response during the Coronavirus pandemic.

The decision by the Council to change the existing grant funding arrangement is part of a wider advocacy programme. The Council endeavours to fully utilise the wide range of community and voluntary sector groups and organisations in Powys to support and meet the holistic and broad advocacy and social requirements.

The needs of citizens in Powys remain paramount and the Council will continue to work with both organisations to ensure that continuity of support is available for those individuals concerned and is not compromised in any way.